Text Box: Carl Sargeant AC
 Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
 Llywodraeth Cymru 
 Caerdydd
 CF99 1NA

 

 17 Chwefror 2016

Annwyl Carl,

 

Diolch i chi am ymddangos ger ein bron ar 21 Ionawr 2016 mewn cysylltiad â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17.

Wrth ymateb i’r Pwyllgor Cyllid, fe wnaethom ymrwymo i ofyn am ragor o wybodaeth gennych am nifer o feysydd.

Byddwn yn ddiolchgar i gael eich ymateb i’r canlynol:

Cyfoeth Naturiol Cymru

Soniasoch am y posibilrwydd i Gyfoeth Naturiol Cymru ddefnyddio ei dir yn well. A oes modd i chi roi rhagor o fanylion am yr hyn yr ydych yn ei ragweld yn hyn o beth, os gwelwch yn dda?

Goblygiadau y Deyrnas Unedig yn peidio â bod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd

Mae amrywiaeth sylweddol o feysydd polisi o fewn eich cylch gwaith sy’n dibynnu ar gymorth ariannol gan yr Undeb Ewropeaidd (a chyfraith Ewrop). Os bydd y Deyrnas Unedig yn penderfynu peidio â bod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, byddai angen trawsnewid rhaglenni mawr yn gyflawn a byddai angen ffrydiau ariannu newydd sylweddol. Yn benodol, byddai’r effaith ar amaethyddiaeth a chymunedau gwledig yn arwyddocaol oherwydd lefel y gefnogaeth ariannol a ddarperir drwy’r Polisi Amaethyddol Cyffredin.

Byddem yn ddiolchgar i gael manylion ynghylch sut y bydd y Gyllideb hon yn cefnogi’r angen am gynllunio wrth gefn.

 

 

Banc Buddsoddi Ewrop

Yn ystod ein sesiwn dystiolaeth, cyfeiriasoch at £350 miliwn o gyllid a oedd wedi’i sicrhau gan Fanc Buddsoddi Ewrop ar gyfer cynllun grant-benthyca. Byddem yn ddiolchgar i gael rhagor o wybodaeth am sut y bydd cynllun o’r fath yn gweithio, a’r amcanion yr ydych yn disgwyl eu gweld yn cael eu cyflawni gyda’r arian ychwanegol hwn.

Rheoli perygl llifogydd

Fe gofiwch inni drafod y pecyn ariannu gwerth £3.3 miliwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer gwaith atgyweirio ar unwaith a gwaith cynnal a chadw afonydd a chynlluniau draenio, ac i gynorthwyo cymunedau sy’n goresgyn effeithiau llifogydd.

Mae’r Prif Weinidog wedi cadarnhau bod £2.3 miliwn wedi’i ddarparu o ganlyniad i gynnydd yn y cyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn Lloegr.

Yn ystod y cyfarfod ar 21 Ionawr, nid oeddech mewn sefyllfa i gadarnhau union ffynhonnell y £1 filiwn ychwanegol o gyllid, nac, a fyddai’n dod o’r gyllideb gyfredol (2015-16) neu’r gyllideb yn y dyfodol (2016-17).

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau ffynhonnell yr £1 filiwn ychwanegol.

Diolch eto am ymddangos ger ein bron y mis diwethaf. Edrychaf ymlaen at gael eich ymateb i’r cwestiynau ychwanegol hyn.

 

Yn gywir

Description: P:\OPO\Committees\Committees (2011-2016)\Env & Sustainability\Correspondence\Chair's correspondence\Alun Ffred Jones sig.jpg

 

Alun Ffred Jones AC

Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd